En

Hyfforddiant Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£280.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Ebrill 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:30

Hyd

Hyd
10 wythnos

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant delfrydol ar ôl cwblhau eich cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 1. Byddwch chi’n astudio’r holl agweddau ymarferol a damcaniaethol sy’n angenrheidiol ar gyfer cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Y rhai sy’n dymuno symud trwy lwybrau Cymdeithas Ceffylau Prydain.

... Perchnogion ceffylau angerddol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau.

... Unrhyw un sy’n dymuno hyfforddi ar gyfer arholiad Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2.

... Y rhai sy’n ystyried neu sy’n dymuno dechrau gyrfa yn y diwydiant ceffylau.

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs rhan-amser hwn, byddwch chi’n datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol, gan gynnwys:

  • Symudiadau ysgol farchogaeth sef cerdded, trotian a charlamu
  • Gweithio mewn sedd ysgafn 
  • Gwaith polion
  • Marchogaeth dros gwrs sy’n cynnwys ffensys

Wrth i’r cwrs symud yn ei flaen, byddwch chi’n datblygu sgiliau pellach ar dir gwastad a thros ffensys.

Byddwch chi hefyd yn datblygu gwybodaeth eang am ofalu am geffylau, gan gynnwys:

  • Sgiliau trin
  • Iechyd ceffylau
  • Bwydo
  • Rheolaeth stablau sylfaenol
  • Cymorth cyntaf ar gyfer ceffylau 
  • Rhaglenni gwaith a ffitrwydd 
  • Cyflwyno ceffylau
  • Gosod harneisiau
  • Cludo ceffylau yn ddiogel

I ehangu eich gwybodaeth ymhellach, gallech symud ymlaen i gwrs hyfforddiant Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnodau 3 a 4 (Gofal ac Arwain).

Gofynion Mynediad

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, dylech chi feddu ar sgiliau marchogaeth digonol, gan gynnwys gallu cerdded, trotion a charlamu yn annibynnol. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gallu marchogaeth yn yr awyr agored mewn ardal agored, neidio dros ffensys unigol a chwrs byr o 75cm.

Dylai dysgwyr fod o leiaf 19 oed a disgwylir iddynt fynd i asesiad marchogaeth cyn dechrau’r cwrs.

Sylwer – i sicrhau lles ein ceffylau, mae ein canolfan geffylau yn gweithredu uchafswm terfyn pwysau o 14 stôn. Gall pob ymgeisydd astudio ar opsiwn marchogaeth neu heb farchogaeth ar bob un o’n cyrsiau ceffylau felly ni fydd lle ar y cwrs yn cael ei wrthod.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cwrs hwn gan un o’n hyfforddwyr cymwysedig Cymdeithas Ceffylau Prydain a chaiff ei gynnal gyda’r hwyr.

Bydd angen het farchogaeth sy’n ffitio’n gywir ac amddiffynydd corff sy’n bodloni gofynion diogelwch presennol, esgidiau marchogaeth, jodhpurs, menig a chwip arnoch chi.

Sylwer bod y cwrs hwn wedi’i ddylunio i baratoi dysgwyr ar gyfer cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2, fodd bynnag, nid yw’r cwrs hwn yn cynnwys yr asesiad

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Hyfforddiant Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2?

UCCE3793AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ebrill 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr