En

YMCA Tystysgrif mewn Maetheg Uwch Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£145.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
26 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
15:00

Hyd

Hyd
15 wythnos

Yn gryno

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i ddysgwyr ddefnyddio gwyddoniaeth maeth ddibynadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac argymhellion bwyta’n iach.

Dyma'r cwrs i chi os...

Bydd dysgwyr yn dod i ddeall gwyddor maeth a sut i gymhwyso hynny i ymarfer corff, chwaraeon a pherfformiad athletig.
Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyfyngiadau a risgiau atchwanegiadau a chymhorthion perfformiad.
  • Pwysigrwydd hydradu ar gyfer perfformiad chwaraeon.

Gan weithio o fewn eu cwmpas ymarfer, byddant yn gallu cefnogi eu cleientiaid i ddeall perthnasedd canllawiau swyddogol i anghenion a dewisiadau bwyd personol, gan gynnwys ar gyfer:

  • iechyd a lles
  • rheoli pwysau
  • perfformiad chwaraeon.

Bydd dysgwyr hefyd yn dysgu sut mae cyfeirio unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff at ffynonellau dibynadwy o wybodaeth pan fo angen

Beth fyddaf yn ei wneud?


Er mwyn cyflawni Lefel 4 YMCA mewn Maetheg Uwch ar gyfer Iechyd, Rheoli Pwysau a Pherfformiad Chwaraeon (610/2694/3), mae angen i ddysgwyr gyflawni 5 uned orfodol:

  • Maeth ar gyfer gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff (F/650/6219)
  • Strwythur a swyddogaethau’r system dreulio (K/650/7239)
  • Maeth cymhwysol ar gyfer ymarfer corff, chwaraeon a pherfformiad athletig (K/650/6220)
  • Atchwanegiadau, cymhorthion perfformiad a hydradu ar gyfer perfformiad chwaraeon (L/650/6221)
  • Darparu cyngor dietegol i gefnogi anghenion gwahanol athletwyr a phobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon (M/650/6222)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed neu hŷn
  • Dylai dysgwyr allu cyfathrebu’n effeithiol ag unigolion a grwpiau

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall y cymhwyster hwn arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefelau a/neu lefelau uwch mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau cysylltiedig. Er enghraifft, Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Pwysau ar gyfer Unigolion â Gordewdra, Diabetes Mellitus a/neu Syndrom Metabolig (600/6752/4).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio YMCA Tystysgrif mewn Maetheg Uwch Lefel 4?

UPCE3771AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 26 Tachwedd 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr