YMCA Tystysgrif mewn Rhaglennu Gweithgarwch Corfforol i Unigolion â Phoen Meingefn Lefel 4
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-sport-adult.jpg)
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£115.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
15:00
Hyd
10 wythnos
Gofynion Mynediad
- Cymhwyster Cyfeirio Ymarfer Corff Lefel 3, NEU, wedi cyflawni Cymhwyster Hyfforddwr Ymarfer Corff Arbenigol Lefel 4 cyn mis Medi 2011 yn ogystal â chyflawni cymhwyster ffitrwydd Lefel 3
Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau priodol i’r dysgwr ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso rhaglenni gweithgarwch corfforol unigol wedi’u strwythuro ar gyfer oedolion sydd â phoen meingefn, yn unol â chanllawiau cyfredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
- Hyfforddwyr Ymarfer Corff Lefel 3 sy’n dymuno bod yn Hyfforddwr Ymarfer Corff Arbenigol Lefel 4 gyda’r gallu i ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso rhaglenni gweithgarwch corfforol unigol wedi’u strwythuro ar gyfer oedolion sydd â phoen meingefn
- Y rhai sy’n dymuno defnyddio’r cymhwyster fel llwyfan ar gyfer symud ymlaen i ddysgu pellach (gweler ‘Beth sy’n dod nesaf’ isod
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y dysgwyr yn ymdrin â’r canlynol:
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ymwneud â’r cymhwyster:
- epidemioleg poen meingefn
- risgiau a ffactorau achosol sy'n gysylltiedig â datblygu poen meingefn
- canllawiau cenedlaethol ar gyfer trin a rheoli poen meingefn
gwrtharwyddion ac ystyriaethau seicogymdeithasol wrth gynllunio gweithgareddau corfforol ar gyfer y cleient
- gyda phoen meingefn (pennu lefel risg)
Sgiliau sy’n ymwneud â’r cymhwyster:
- dulliau goddrychol a gwrthrychol o gasglu digon o wybodaeth i gynllunio rhaglenni gweithgarwch corfforol diogel ac effeithiol ar gyfer unigolion â phoen meingefn
- sut i ddewis gweithgareddau corfforol diogel ac effeithiol sy'n benodol i statws iechyd y cleient, lefel risg, anghenion a galluoedd
- defnydd effeithiol o haenu / ciwio haenog mewn rhaglenni gweithgarwch corfforol cynyddol ar gyfer unigolion â phoen meingefn
- amrywiaeth o ddulliau wedi'u dilysu a ddefnyddir i fonitro, adolygu ac addasu rhaglenni gweithgarwch corfforol ar gyfer unigolion â phoen meingefn
- cyngor ynghylch ffordd o fyw, gofal cartref, ymarfer corff, sy’n addas ar gyfer yr unigolyn sydd â phoen meingefn
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rheini sy’n 16 oed a hŷn. Mae cymwysterau a phrofiad hanfodol yn cynnwys:
- Cymhwyster Cyfeirio Ymarfer Corff Lefel 3, NEU, wedi cyflawni Cymhwyster Hyfforddwr Ymarfer Corff Arbenigol Lefel 4 cyn mis Medi 2011 yn ogystal â chyflawni cymhwyster ffitrwydd Lefel 3
- 150 awr o ymarfer proffesiynol perthnasol ar Lefel 3 mewn dylunio, darparu, monitro, addasu a theilwra rhaglenni ymarfer corff ar gyfer unigolion yn ystod y ddwy flynedd flaenorol ac o leiaf chwe mis o brofiad ers cymhwyso (gyda thystiolaeth o hynny mewn CV a geirda).
Beth sy'n digwydd nesaf?
Posibiliadau cyflogaeth yn y dyfodol Gall y cymhwyster hwn arwain at rôl uwch fel Hyfforddwr Ymarfer Corff Arbenigol (Poen Meingefn) yn y sector hamdden egnïol; mae potensial cyflogaeth hefyd yn y sector iechyd, er enghraifft fel Hyfforddwr Technegol yn y GIG. Symud ymlaen i ddysgu pellach/lefel uwch Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i gymwysterau eraill, er enghraifft:
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Pwysau ar gyfer Unigolion â Gordewdra, Diabetes Mellitus a/neu Syndrom Metabolig
- Unrhyw gymwysterau lefel 4 ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff arbenigol
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPCE3770AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr