En

Gwersyll Cist Datblygwyr Stac Llawn

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Awst 2024

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg
Hyd

Hyd
16 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae hwn yn gyfle sy'n newid bywydau'r rheini sydd ag ychydig iawn o brofiad, neu brofiad cyfyngedig.

Yn gryno

Mae Coleg Gwent wedi partneru gyda Code Institute, sef arweinydd byd-eang mewn cyflwyno'r sgiliau codio i helpu pobl newid i yrfa mewn datblygu meddalwedd. Mae'r galw am ddatblygwyr meddalwedd yn cynyddu'n gyflym wrth i ddigideiddio gyflymu, ac wrth i gannoedd o filoedd o swyddi newydd gael eu cyflwyno bob mis.

Bydd ein Gwersyll Cist Datblygwyr Stac Llawn yng Nghymru yn helpu dysgwyr Cymreig di-waith ddechrau ar yrfa fel datblygwyr meddalwedd. 

Gwyddom taw’r helfa swyddi yw'r rhan fwyaf heriol o daith y rheini sy'n newid gyrfa. Dyna pam, fel rhan o’r gwersyll cist, bydd gan ddysgwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus fantais gystadleuol wrth sicrhau swydd, oherwydd byddant yn cael cyfweliad gwarantedig ar ôl cwblhad llwyddiannus.

Mae cyflogwyr yn cynnwys:

  • PWC
  • Hyve
  • CCQ
  • Carnedd
  • Tazio
  • Hoowla
  • Capital on Tap
  • Welsh Water
  • Royal Educare

Dyma'r cwrs i chi os...

…dysgwr 19 oed neu’n hŷn, sy'n byw yng Nghymru.

…y rheini sy'n ddi-waith

…unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes codio a datblygu meddalwedd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Trwy gwblhau'r gwersyll cist Datblygwyr Stac Llawn hwn, bydd dysgwyr yn datblygu:

  • Gwybodaeth a sgiliau mewn dylunio, datblygu a phrofi datrysiadau cod i broblemau
  • Cymhwysedd wrth roi fframweithiau a llyfrgelloedd cod ar waith i optimeiddio cynhyrchu a phrofi datrysiadau cod.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o systemau storio data ac yn caffael sgiliau mewn cyrchu ac integreiddio data o amryw ffynhonellau.
  • Dealltwriaeth o nodweddion rhyngwynebau defnyddwyr ac yn rhoi atebion sy'n bodloni gofynion defnyddwyr ar waith.
  • Cymhwysedd wrth ddefnyddio systemau gwybodaeth diogel sy’n seiliedig ar y we.
  • Cymwyseddau arbenigol wrth weithredu datrysiadau datblygu meddalwedd.
  • Y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth mewn swydd ddatblygu meddalwedd ar lefel broffesiynol drwy gynnwys gyrfa sy’n ymroddedig ac yn ymdrochedig
  • Ymwybyddiaeth o'r cyd-destun busnes wrth ddatblygu a marchnata rhaglen feddalwedd.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Cwblhau proses asesu gychwynnol dri cham y Code Institute

  • Her Codio
  • Datganiad Personol (~300 gair sy’n amlinellu eich rhesymau dros ddilyn y cwrs)
  • Cyfweliad Derbyn

Mae hwn yn gyfle sy'n newid bywydau'r rheini sydd ag ychydig iawn o brofiad, neu brofiad cyfyngedig.

Bydd angen i unrhyw un sy'n dilyn y cwrs allu ymrwymo i raglen astudiaeth amser llawn o 35 awr yr wythnos am 16 wythnos.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cynigir y rhaglen hon mewn partneriaeth â Code Institution a bydd angen i ddysgwyr gwblhau proses ymrestru ddau gam i fodloni’r meini prawf. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu rhwng y ddau sefydliad. 

Bydd angen i ddysgwyr ymrestru gyda Coleg Gwent drwy ein gwefan a hefyd gofrestru eu diddordeb gyda Code Institution er mwyn cwblhau'r broses asesu gychwynnol dri cham yn uniongyrchol gyda Code Institution. Defnyddiwch y ddolen isod i gwblhau'r broses asesu hon:

Diploma mewn Datblygu Gwefannau yng Nghymru a Ariennir (codeinstitute.net)

Cyflwynir y cwrs hwn drwy e-ddysgu. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod â’r cymhelliant i astudio ar eich cyflymder eich hun, mewn ffordd drefnus gan ddefnyddio dyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gwersyll Cist Datblygwyr Stac Llawn?

HQCE3727AA
Oddi ar y safle
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Awst 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr