Cyflwyniad i blastro
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£180.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
25 Mawrth 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
17:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
4 wythnos
Yn gryno
Cyflwyniad cynhwysfawr i blastro. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Tystysgrif Able Skills i gadarnhau'r sgiliau y byddwch wedi'u dysgu.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... os ydych am ddysgu am hanfodion plastro.
Cynnwys y cwrs
Yn ystod y cwrs plastro hwn byddwch yn dysgu:
- Iechyd a Diogelwch a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- Sut i dorri a gosod bwrdd plastr ar waliau a nenfydau
- Sut i dapio uniadau safonol a mewnol
- Sut i dorri a gosod gleiniau ongl o amgylch ffenestri a datgeliadau
- Sut i baratoi arwynebau cyn plastro gan ddefnyddio plastr bondio a phlaster gorffen, gan sicrhau arwyneb gwastad gorffenedig yn barod ar gyfer addurno
- Sut i gymysgu deunyddiau plastro
- Sut i sgimio waliau
- Sut i sgimio nenfydau
- Sut i roi glud PVA Unibond ar arwynebau.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallai arwain at Gwrs Cynnal a Chadw Sylfaenol i uwchsgilio gwybodaeth mewn technegau adeiladu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCCE3719AE
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 25 Mawrth 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr