Weldio i Ferched
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£60.00
Dyddiad Cychwyn
07 Mawrth 2025
Dydd Gwener
Amser Dechrau
10:00
Amser Gorffen
13:00
Hyd
10 wythnos
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i ymgymryd ag amrywiaeth o dechnegau a gweithdrefnau weldio yn ddiogel, gan roi dealltwriaeth fanwl i chi o’r prosesau weldio, eu cymwysiadau a’r cyfarpar, y deunyddiau a’r deunyddiad traul a ddefnyddir, er mwyn i chi allu gweithio yn unol â manylebau a safonau’r diwydiant peirianneg.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa fel weldiwr ym meysydd peirianneg neu weithgynhyrchu.
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys prosesau weldio Gwarchod Nwy Gweithredol/Anweithredol Metel (MAGS/MIGS), Arc Metel â Llaw (MMA) a Gwarchod Nwy Gweithredol/Anweithredol Tungsten (TAGS/TIGS). Bydd angen i chi gwblhau ystod o gymalau weldio mewn amrywiaeth o safleoedd weldio i safon weldio BSEN 4872. Yna, caiff y cymalau wedi’u weldio hyn eu profi gan amrywiaeth o brofion i’w dinistrio cyn iddynt gael eu hasesu yn weledol gan yr aseswr.
Gofynion Mynediad
Anelir y cwrs at bobl 19 oed a hŷn ac, er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, dylech chi fod yn frwdfrydig am saernïo ac weldio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun (esgidiau blaen esgid dur a throswisg wrthfflam).
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NPCE3663AC
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 07 Mawrth 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr