Cyflwyniad i Driniaethau Llygaid
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£35.00
Dyddiad Cychwyn
25 Chwefror 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
15:00
Hyd
09:30 - 15:00
Yn gryno
Mae triniaethau llygaid yn boblogaidd iawn yn ein diwydiant, o gwyro a lliwio syml i aeliau Henna, lamineiddio aeliau, lliwio blew amrant ac aeliau i godi blew amrant. Gall y cwrs hwn agor llawer o ddrysau y gallwch chi symud ymlaen iddynt ar ôl ei gwblhau neu gall ychwanegu at eich cymwysterau presennol. Gallwn ni eich cefnogi chi a’ch tywys chi yn eich gyrfa bresennol neu mewn gyrfa newydd.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Therapyddion neu unrhyw un sy’n dymuno symud ymlaen yn ei yrfa ym maes harddwch.
... Unrhyw un sy’n dymuno addasu ei sgiliau a dysgu am y tueddiadau presennol.
Cynnwys y cwrs
Dysgu am y canlynol ac ennill profiad ym meysydd:
- Cwyro aeliau
- Lliwio aeliau
- Edafu
- Lamineiddio aeliau
- Aeliau Henna
- Lliwio blew amrant
- Codi blew amrant
- Cyngor cyn triniaeth a chyngor ar ôl-ofal
Gwrtharwyddion, gwrthweithredoedd, osgoi croes-halogi
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ond mae’n rhaid i chi fod yn fodlon gweithio ar eich gilydd er mwyn ennill y cymhwyster a’r profiad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dewch i’n sesiwn gyflwyno i gael rhagor o wybodaeth am y cwrs llawn a chyrsiau eraill efallai y bydd gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3640AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 25 Chwefror 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr