CITB Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch Site Safety Plus
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£200.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
22 Tachwedd 2024
Dydd Gwener
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
09:00 - 17:00
Yn gryno
Mae yna lawer o beryglon posibl wrth weithio ar safle, ac mae’r cwrs hwn yn rhoi cyngor ymarferol ar gadw eich hun a’ch cydweithwyr yn ddiogel. Mae’n cwmpasu eich cyfrifoldebau chi fel unigolyn a chyfrifoldebau eich cyflogwr, gan gynnwys beth allech ei wneud os ydych yn meddwl fod iechyd a diogelwch unrhyw un yn cael eu peryglu.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil
…yn eich darparu gyda’r dystiolaeth sydd arnoch ei hangen i wneud cais am gerdyn gwyrdd/labrwr CSCS, ynghyd â Phrawf Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd CITB
Cynnwys y cwrs
Hyd y cwrs yw 1 diwrnod (7 awr), ac wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth i chi o:
- yr angen i atal damweiniau
- cyfraith iechyd a diogelwch
- sut mae eich rôl yn cyd-fynd â rheoli a rheolaeth y safle
- asesiadau risg a datganiadau dull
- perfformio’n ddiogel a gofyn am gyngor
- sut i adrodd ar weithredoedd anniogel er mwyn atal damwain
Cewch eich asesu trwy gwestiynau amlddewis, a’ch lefel o ryngweithio yn ystod y cwrs.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Y cam naturiol nesaf ar ôl cwblhau’r cwrs fyddai symud ymlaen i’r cwrs Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylydd Safle (SSSTS).
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCCE3296AB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 22 Tachwedd 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr