City & Guilds Tystysgrif mewn Patisserie Cyffredinol a Melysion Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£549.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Dydd Llun
Amser Dechrau
11:00
Amser Gorffen
18:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Mae Tystysgrif Lefel 3 City and Guilds mewn Patisserie a Melysion Cyffredinol wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ym maes arbenigol patisserie, melysion a gwaith siocled fel cogydd crwst neu ‘patissier’.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Ydych yn gweithio neu am weithio fel cogydd patisserie yn y sector
...Ydych yn greadigol ac mae gennych lygad am fanylion
...Ydych chi'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cegin
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r unedau y byddwch yn ymdrin â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:
- Cynhyrchion toes a chytew
- Cynhyrchu petits fours
- Cynhyrchu cynhyrchion past
- Cynhyrchu pwdinau poethion, oerion ac wedi rhewi
- Cynhyrchu bisgedi, cacen a sbyngau
- Cynhyrchu darnau arddangos ac eitemau addurnol
- Dulliau cynhyrchu siocled a thueddiadau byd-eang
- Technegau tymheru siocled
- Gwneud gwahanol fathau o siocled gan gynnwys clôr y moch, bariau siocled a llenwadau
- Technegau brwsio aer
Byddwch yn cael eich asesu drwy:
-
- Bapurau ateb byr
- Aseiniadau
- Asesiadau ymarferol
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad at y hwn, bydd angen rhywfaint o brofiad o weithio mewn amgylchedd cegin.
Rhaid i chi fod yn greadigol, yn hunan-ysgogol, yn weithgar ac yn angerddol dros goginio.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r cyrsiau canlynol ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus. Bydd gan rai cyrsiau ofynion mynediad ychwanegol ond bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn barod i ymgeisio:
- Lefel 1 neu 2 mewn Coginio Proffesiynol
- Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £23.00 a £55.00 a bydd hyn yn cael ei thrafod gyda chi ar eich diwrnod cyntaf.
Mae’r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE2803AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr