En

Signature Tystysgrif mewn Iaith Arwyddion Prydain Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£365.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
28 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
15:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
17 wythnos

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau i gyfathrebu â phobl Fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd bob dydd. Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau hirach a mwy amrywiol nag ar Lefel 1. Bydd y cwrs yn datblygu cyfathrebu yn BSL am fywyd go iawn, trefn feunyddiol a phrofiadau dyddiol. Bydd y dysgwr yn gallu delio â'r rhan fwyaf o gyfathrebu rheolaidd a bydd â digon o ddealltwriaeth o ramadeg i ymdopi â rhywfaint o gyfathrebu nad yw mor gyffredin.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Ar gyfer y rhai sy'n dymuno ennill sgiliau iaith ar lefel ganolradd i wella cyfathrebu â phobl Fyddar, pobl sydd yn Fyddar ac sy’n dymuno ennill cymhwyster yn eu mamiaith.

Dyma'r dilyniant delfrydol o astudiaeth Lefel 1 yn BSL.

Cynnwys y cwrs

Mae dysgu Iaith Arwyddion Prydain, fel unrhyw ail iaith arall, angen ymrwymiad ac ymroddiad er mwyn ennill y sgil sy'n ofynnol yn effeithiol. Bydd gofyn i chi astudio'n annibynnol y tu allan i oriau’r ystafell ddosbarth, yn ogystal â fel rhan o grŵp mewn ystafell ddosbarth.

Byddwch yn astudio tair uned orfodol o'r cwrs:

Sgiliau Derbyngar BSL

Sgiliau cynhyrchiol BSL

Sgiliau sgwrsio BSL

Rhaid cwblhau'r tair uned er mwyn ennill y cymhwyster. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr i gyfathrebu â phobl Fyddar yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys, Sgwrs Bob Dydd, Bwyta ac Yfed, Gwario a Siopa, a Theithio a gwyliau.

 Cewch eich asesu drwy sesiynau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â thri asesiad ffurfiol ar ddiwedd y cwrs. Bydd gofyn i chi gael sgwrs wedi'i recordio ar fideo, sefyll papur derbyngar amlddewis, a rhoi cyflwyniad drwy ddefnyddio BSL.

 Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill y Dyfarniad ‘Signature’ Lefel 2 yn Iaith Arwyddion Prydain.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, bydd gofyn i ddysgwyr fod â gwybodaeth sylfaenol yn BSL cyn dechrau'r cwrs felly mae’n bosib y bydd angen i chi gael cyfweliad mynediad lle gall y tiwtor asesu eich sgiliau BSL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i'r Wobr ‘Signature’ Lefel 3 yn Iaith Arwyddion Prydain.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Signature Tystysgrif mewn Iaith Arwyddion Prydain Lefel 2?

CPCE2117AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 28 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr