City & Guilds Tystysgrif mewn Barbro Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
£384.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
12:15
Hyd
32 wythnos
Yn gryno
Os ydych chi’n angerddol am ddechrau gyrfa ym maes trin gwallt dynion, bydd y cwrs gyda’r nos hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol angenrheidiol i chi er mwyn symud i gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt Dynion.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai â diddordeb brwd mewn trin gwallt dynion
... pobl â sgiliau rhyngbersonol da
...unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes trin gwallt dynion
Cynnwys y cwrs
Yn ystod y cwrs, byddwch chi’n astudio’r unedau canlynol:
- Gweithio yn y diwydiant gwallt
- Dilyn iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Cynnal ymgynghoriad â chleientiaid ar gyfer gwasanaethau gwallt
- Rhoi shampŵ a chyflyrydd ar y gwallt a chroen y pen
- Torri gwallt dynion
- Celfyddyd lliwio gwallt
- Steilio gwallt dynion
Cewch eich asesu ar gyfer y cymhwyster drwy gyflawni tasgau ymarferol a phrofion ar-lein.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond mae diddordeb brwd ym maes trin gwallt dynion, y gallu i gyfathrebu’n dda a gwedd ddestlus yn hanfodol.
Bydd angen sicrhau presenoldeb llawn er mwyn llwyddo i gwblhau’r cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
I adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyniad i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent a’r gost fydd £33.00. Hefyd, bydd angen cit trin gwallt dynion a’r gost fydd £130.00. Gall staff y Coleg eich cyfeirio i’r darparwr cymeradwy os bydd angen. Caiff gwisg lawn a chôd gwisg eu trafod yn ystod noson gynta’r cwrs.
Mae’r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallant newid.
Ffioedd y cwrs - £205.00
Ffioedd cofrestru - £76.00
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EPCE0094AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr