EAL Diploma mewn Technolegau Peirianegol Lefel 1
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
1
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd E neu uwch, gan gynnwys gradd D mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Yn gryno
Mae hwn yn gwrs blwyddyn, llawn amser, ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno elwa o gael cyflwyniad cyffredinol i egwyddorion ac arferion technolegau peirianneg. Nod y cwrs yw cyfarparu myfyrwyr gyda’r hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol er mwyn cwblhau’r Diploma Lefel 1 mewn Technolegau Peirianneg.
Dyma gymhwyster galwedigaethol sydd wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu ar lefel uwch o astudiaeth ac er mwyn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector peirianneg.
Dyma'r cwrs i chi os...
... mae gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector peirianneg.
... rydych eisiau cyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn peirianneg.
... rydych eisiau creu cynnyrch mewn gweithdy peirianneg fecanyddol.
... rydych eisiau dysgu am gydrannau electronig sylfaenol a'u swyddogaeth mewn cylched.
... rydych eisiau lefel sylfaenol o ddealltwriaeth am gynnal a chadw mecanyddol ac ymarfer gweithdy.
... rydych eisiau lefel sylfaenol o ddealltwriaeth am adeiladu cylched electronig a gosodiadau trydanol.
... rydych eisiau ennill gwybodaeth sylfaenol am gynllunio prosiectau a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAM).
... rydych eisiau ennill sgiliau sylfaenol wrth ddefnyddio meddalwedd lluniadu â chymorth cyfrifiadur (CAD).
Beth fyddaf yn ei wneud?
I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid ichi gwblhau ystod eang o unedau gorfodol ac opsiynol, gan gynnwys:
- Uned 1: Cyflwyniad i Weithio mewn Peirianneg (uned orfodol)
- Uned 2: Cyflwyniad i Beiriannu Deunyddiau Peirianneg
- Uned 5: Cyflwyniad i Electroneg
- Uned 6: Cyflwyniad i Osodiadau Trydanol
- Uned 7: Cyflwyniad i Gynnal a Chadw Mecanyddol a Thrydanol
- Uned 13: Cyflwyniad i Wyddoniaeth a Mathemateg Sylfaenol a ddefnyddir mewn Peirianneg
- Uned 15: Cyflwyniad i Feddalwedd Lluniadu â Chymorth Cyfrifiadur (CAD).
- Uned 16: Cyflwyniad i Weithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAM)
- Uned 17: Cyflwyniad i Gynllunio Prosiectau Peirianneg
Dulliau Astudio
Darllen testun, darlithoedd, cymryd nodiadau yn y dosbarth, sesiynau ymarferol, defnyddio TGCh a’n llwyfan dysgu digidol – Canvas.
Sut asesir y cwrs?
Caiff Uned 1 (uned orfodol) ei hasesu drwy arholiad allanol ar-lein. Caiff yr holl unedau eraill eu hasesu drwy brofion ymarferol a gwybodaeth wedi’u marcio gan ddarlithwyr
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:
- Diploma EAL Lefel 1 mewn Technolegau Peirianneg
- Mathemateg a Saesneg
- Gweithgareddau Sgiliau
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU gradd E neu uwch arnoch chi, gan gynnwys gradd D mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Byddwch angen bod yn rhifiadol, yn greadigol, ac â diddordeb brwd mewn peirianneg, bod â'r gallu i gymell eich hunan, yn weithgar, yn brydlon ac yn ymrwymedig.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Astudiwch gymhwyster City & Guilds Lefel 2 neu BTEC mewn peirianneg.
- Gyrfa mewn peirianneg. Mae swyddi nodweddiadol yn cynnwys: Gosodwr Mecanyddol, Technegydd Electronig/Trydanol, gweithredwr CNC, Gwneuthurwr Offer neu Osodwr/Tröwr.
- Gall y cymhwyster hwyluso dilyniant at ystod o Brentisiaethau Peirianneg neu gyflogaeth berthnasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes a chwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac ymagwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, sy'n costio tua £40.00. Byddwch hefyd angen eich offer ysgrifennu a ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFCE0266AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr