NCFE CACHE Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg
Lefel
3
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£492.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
08 Medi 2025
Dydd Llun
Amser Dechrau
16:30
Amser Gorffen
19:30
Hyd
33 wythnos
Yn gryno
Mae cymorth yn yr ystafell ddosbarth yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyrraedd eu potensial llawn ac os yw gweithio mewn rôl cymorth yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth ddwfn i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen wrth weithio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae’n cynnwys pob agwedd ar gymorth arbenigol gan gynnwys cynllunio; cyflwyno ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â’r athro/athrawes; cymorth dwyieithog; cymorth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Disgwylir i chi ennill profiad ymarferol mewn rolau sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ogystal â cholegau, am 1 diwrnod yr wythnos, fel cyflogai neu fel gwirfoddolwr. Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser, mae’n bwysig i chi drefnu eich lleoliad gwaith cyn cofrestru.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…os hoffech chi weithio gyda phlant neu bobl ifanc mewn sefyllfa ystafell ddosbarth
…hoffech chi fod yn gynorthwy-ydd ystafell ddosbarth neu’n gynorthwy-ydd dysgu a chymorth
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a gyflawnir mewn ysgolion a cholegau ac mae wedi’i ddylunio i helpu dilyniant a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch chi’n cwblhau 16 o unedau gorfodol, 7 uned wybodaeth yn unig a 9 uned sy’n gyfuniad o wybodaeth ac ymarfer. Caiff rhai eu hasesu yn eich lleoliad gwaith ysgol/coleg a bydd angen i chi lunio aseiniadau ysgrifenedig ar gyfer y mwyafrif o’r unedau.
Caiff pob uned ei hasesu ar wahân trwy ystod o ddulliau asesu.
Mae’r cwrs hwn yn ychwanegu cymorth ar gyfer dilyniant a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion.
Gofynion Mynediad
Ar y lefel hon, dylech chi fod wedi cwblhau:
4 x cymhwyster TGAU gradd C ac uwch, neu gwrs Cymorth, Dysgu ac Addysgu Lefel 2, neu gwrs ESOL Lefel 2, neu gwrs CCPLD Lefel 2.
Mae’n rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y deilliannau dysgu a meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd angenrheidiol i gwblhau’r cwrs. Os nad ydych chi’n meddu ar y cymwysterau uchod ond rydych chi’n meddu ar brofiad helaeth o weithio ym maes addysg, gallwn drafod eich opsiynau yn ystod y cyfweliad mynediad.
Cynhelir cyfweliad mynediad gydag Arweinwyr y Cwrs i egluro hyn ar gyfer Cymorth Dysgu ac Addysgu i sicrhau eich bod chi ar y cwrs cywir.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl i chi ennill eich lle, bydd gofyniad i chi gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd trwy’r coleg.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCCE0300AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 08 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr