En

NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£445.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
16:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:30

Hyd

Hyd
33 wythnos

Yn gryno

Mae cymorth yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu i blant gyrraedd eu potensial llawn - os yw gweithio mewn rôl gymorth yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi.

Disgwylir i chi ennill profiad ymarferol drwy weithio mewn rolau sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ogystal â mewn colegau am o leiaf un diwrnod yr wythnos fel cyflogai neu wirfoddolwr.

Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser, mae’n bwysig eich bod chi’n trefnu eich lleoliad gwaith cyn cofrestru. Os ydych chi’n astudio’n amser llawn, byddwn ni’n trefnu eich lleoliadau gwaith ar eich rhan.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn dosbarth.

…unrhyw un sydd eisiau bod yn gynorthwyydd ystafell ddosbarth neu’n gynorthwyydd cymorth dysgu

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion a cholegau; ac fe’i cynlluniwyd yn gymorth i ysgogi cynnydd a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch yn cwblhau 11 uned drwy gydol y flwyddyn, bydd rhai yn cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a'r rhan fwyaf o unedau y byddwch yn eu cynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig.

Mae’n datblygu gwybodaeth a fydd yn werthfawr i weithwyr gwirfoddol a gweithwyr sy’n cael eu talu, drwy astudio ystod o unedau sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Caiff bob uned ei hasesu ar wahân drwy nifer o waliau asesu gwahanol

Ar ôl y cwrs hwn gallech symud ymlaen i Ddyfarniad neu Dystysgrif CACHE Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae CACHE yn argymell y dylai fod gennych 5 TGAU gradd c neu gymhwyster cyfatebol er mwyn ymdopi â gofynion y cymhwyster neu gymhwyster galwedigaethol gofal lefel 1.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi gael gwiriad DBS.

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2?

NCCE0238AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 09 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr