En

NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun i Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Mae cymorth yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu i blant gyrraedd eu potensial llawn - os yw gweithio mewn rôl gymorth yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi.

 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn dosbarth.

…unrhyw un sydd eisiau bod yn gynorthwyydd ystafell ddosbarth neu’n gynorthwyydd cymorth dysgu

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion a cholegau; ac fe’i cynlluniwyd yn gymorth i ysgogi cynnydd a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch yn cwblhau uned drwy gydol y flwyddyn, bydd rhai yn cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a'r rhan fwyaf o unedau y byddwch yn eu cynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig.

Mae’n datblygu gwybodaeth a fydd yn werthfawr i weithwyr gwirfoddol a gweithwyr sy’n cael eu talu, drwy astudio ystod o unedau sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Caiff bob uned ei hasesu ar wahân drwy nifer o waliau asesu gwahanol

Ar ôl y cwrs hwn gallech symud ymlaen i Ddyfarniad neu Dystysgrif CACHE Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.

Disgwylir i chi ennill profiad ymarferol drwy weithio mewn rolau sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ogystal â mewn colegau am o leiaf un diwrnod yr wythnos fel cyflogai neu wirfoddolwr.

Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser, mae’n bwysig eich bod chi’n trefnu eich lleoliad gwaith cyn cofrestru. Os ydych chi’n astudio’n amser llawn, byddwn ni’n trefnu eich lleoliadau gwaith ar eich rhan.

Gofynion Mynediad

Ar y lefel hon dylech fod wedi cwblhau:

4 x TGAU gradd D ac uwch, neu gwrs Gofal Lefel 1, neu Gwrs ESOL Lefel 1, neu CCPLD Lefel 2. Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y canlyniadau dysgu a meddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau'r cwrs. Os nad oes gennych y cymwysterau uchod ond bod gennych brofiad o fyd addysg, gallwn drafod eich opsiynau yn ystod y cyfweliad mynediad.

Cynhelir cyfweliad mynediad gydag Arweinwyr Cwrs i egluro hyn ar gyfer Lefel 2 STL i sicrhau eich bod ar y cwrs cywir.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi gael gwiriad DBS.

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2?

NPCE0238AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr