AAT Tystysgrif mewn Cyfrifeg Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
2
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£1250.00
Dyddiad Cychwyn
07 Ionawr 2025
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau
17:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
19 wythnos
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau cyllid a chyfrifeg ymarferol sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ichi a all agor drysau mewn sawl diwydiant ledled y byd. Mae'n ddelfrydol os ydych am weithio mewn rôl cyfrifyddu, er enghraifft gydag awdurdodau lleol, yswiriant, banciau neu bractis cyfrifeg, ac mae'n cynnig llwybr rhagorol i ddod yn Gyfrifydd Siartredig.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...swydd fel gweinyddwr cyfrifon, cynorthwyydd cyfrifon, clerc cyfrifon taladwy, clerc llyfrau cyfrifon pryniadau/gwerthiannau, technegydd cyfrifeg dan hyfforddiant neu gynorthwyydd cyllid dan hyfforddiant
...gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid
...unrhyw un sydd eisiau mynd ymlaen i astudiaethau lefel gradd mewn Busnes
Cynnwys y cwrs
Mae’r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn mynd i’r afael ag ystod eang o sgiliau cyfrifeg craidd, yn ogystal â sgiliau busnes a sgiliau personol yn ymwneud â chyfrifeg. Mae themâu allweddol drwy gydol maes cymwysterau cyfrifeg, gan gynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu. Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:
- Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
- Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
- Egwyddorion Prisio
- Yr Amgylchedd Busnes
Diben y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi yn llawn i fynd ymlaen i yrfa mewn busnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyfrifeg mewn cadw cyfrifon cofnod dwbl a chostio sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o brynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i gyfrannu'n effeithiol yn y gweithle. Hefyd byddwch yn dysgu sgiliau TG a dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes. Byddwch yn cael eich cyflwyno i elfennau o gyfraith contract, cyfraith cyflogaeth a chyfraith cwmni.
Asesir tair uned yn unigol mewn arholiadau diwedd uned.
Bydd hefyd angen i chi sefyll asesiad synoptig sy’n ymdrin ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws nifer o unedau.
Gofynion Mynediad
Os oes gennych unrhyw brofiad cyfrifeg neu ariannol blaenorol, gallwch sefyll gwiriad sgiliau ar-lein yn www.aatskillcheck.org/ i'ch helpu chi benderfynu a ddylech ddechrau Tystysgrif Lefel 2 neu Ddiploma Lefel 3. Os ydych yn teimlo y dylech ddechrau ar Lefel 3, cewch gyfweliad asesu i sicrhau eich bod ar y lefel astudio gywir.
Gwybodaeth Ychwanegol
I astudio'r cymhwyster hwn, bydd angen ichi ymuno â'r AAT fel aelod myfyriwr, sydd ar hyn o bryd yn costio oddeutu £172.
Codir tâl ychwanegol o oddeutu £205 am ddeunyddiau'r cwrs. Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCCE0111AB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 07 Ionawr 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr