En

BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£1105.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:30

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Yn cael ei gydnabod fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth, bydd y cwrs blwyddyn hwn yn rhoi i chi cymhwyster cysylltiedig â gwaith, arbenigol iawn mewn Peirianneg, a'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith yn y sector hwnnw.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant peirianneg.

Cynnwys y cwrs

Bydd rhaid i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth sy'n gysylltiedig â dylunio mecanyddol a gweithgynhyrchu, adeiladu a diagnosio diffygion; yn ogystal, rhaid bod yn hollol ymrwymedig i bresenoldeb ac yn gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.

Mae'r cwrs ei hun yn cynnwys prosiectau ac aseiniadau sydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau gweithdy/labordy ymarferol, sesiynau ystafell ddosbarth, arddangosiadau, ymweliadau â chwmnïoedd a siaradwyr gwadd o'r diwydiant. Mae'r pynciau y byddwch yn eu cwmpasu yn cynnwys:

· Egwyddorion peirianneg, sydd yn cwmpasu mathemateg ac egwyddorion mecanyddol a thrydanol

· Cyflwyno prosesau peirianneg yn ddiogel fel tîm

· Dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch peirianneg

· Dylunio â chymorth cyfrifiadurol mewn peirianneg

Fe’ch asesir drwy aseiniadau (sydd wedi'u graddio fel 'pasio', 'teilyngdod' neu 'rhagoriaeth', arholiadau ac asesiad allanol, profion a gwaith ymarferol.

Ar ôl cwblhau, byddwch yn ennill:

Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol.

 

 

Gofynion Mynediad

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys C mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall (yn ddelfrydol mewn Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu gymhwyster Lefel 2 priodol gyda phroffil Teilyngdod. Ystyrir dysgwyr hyn ar sail cymwysterau mynediad a/neu eich profiad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych yn dilyn Prentisiaeth ffurfiol, mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cwrs ychwanegol i gwblhau'r sgiliau hanfodol sy'n ofynnol. Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunain, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, cwmpawd, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

 

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 3?

CPBS0005AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr