BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, a dylai gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol a dylai gynnwys cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.
Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw cyfuno sgiliau technegol â’r sgiliau busnes, y sgiliau rhyngbersonol a’r sgiliau rheoli prosiect angenrheidiol nid yn unig yn y sector cyfrifiadura ond ym mhob sector sy’n defnyddio technoleg mewn amgylchedd byd-eang modern.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Bydd gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes cyfrifiadura
... Hoffech chi astudio cyfrifiadura ar lefel addysg uwch
... Rydych chi’n frwdfrydig am ofynion technolegol diwydiant sy’n newid yn barhaus
... Hoffech chi gyfuno gwybodaeth dechnegol â gwybodaeth busnes.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch chi’n ennill cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol i fodloni gofynion technolegol diwydiant sy’n newid yn barhaus. Bydd y rhaglen yn datblygu eich sgiliau technegol o ran cymorth systemau, datblygu meddalwedd a rhwydweithio. Byddwch chi’n astudio unedau craidd yn ystod y flwyddyn gyntaf ac, yna, byddwch yn symud ymlaen i lwybr cymorth systemau, rhwydweithio neu ddatblygu meddalwedd yn yr ail flwyddyn.
Byddwch chi’n astudio ystod eang iawn o bynciau cyfrifiadura, a allai gynnwys:
Blwyddyn 1:
- Egwyddorion Cyfrifiadureg (arholiad)
- Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol (arholiad)
Gall unedau dewisol gynnwys:
- Diogelwch ac Amgryptio Systemau TG
- Cymwysiadau Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol
- Datblygu Gwefannau
- Graffeg Ddigidol ac Animeiddio
Blwyddyn 2:
- Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadurol (asesiad allanol)
- Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd (asesiad allanol)
Gall unedau dewisol gynnwys:
- Effaith Cyfrifiadura
- Rhwydweithio Cyfrifiadurol
- Datblygu Cronfa Ddata Berthynol
- Dadansoddi a Dylunio Systemau
Cewch eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn a byddwch chi’n ennill cymhwyster:
- Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn Cyfrifiadura (Pwyntiau UCAS sy’n gyfwerth â 3 chymhwyster Safon Uwch)
- Tystysgrifau Her Sgiliau (sy’n cynhyrchu pwyntiau UCAS sy’n gyfwerth ag 1 cymhwyster Safon Uwch)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, a dylai gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol a dylai gynnwys cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol. Parchu pobl eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant yw’r rhinweddau hanfodol a ddisgwylir gan ein holl ddysgwyr. Cewch eich asesu’n barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yn Coleg Gwent neu astudiaethau eraill ar lefel y brifysgol mewn pynciau megis cyfrifiadura, e-fasnach, gemio, systemau rheoli gwybodaeth neu reoli cronfa ddata.
- Cyflogaeth fel datblygwr iau neu dechnegydd cyfrifiaduron ayyb.
- Prentisiaeth mewn cwmni TG neu Gyfrifiadura addas.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBE0040AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr