BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
HiVE - Glyn Ebbwy
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg ac, yn ddelfrydol, gradd B mewn Gwyddoniaeth.
Yn gryno
Bwriad y cwrs hwn yw darparu’r wybodaeth sylfaenol a’r sgiliau penodol y mae eu hangen i fodloni gofynion diwydiannau peirianneg chwaraeon moduro/mecanyddol modern.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg
... Ydych yn danbaid dros chwaraeon moduro
... Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae chwaraeon moduro yn un o’r diwydiannau mwyaf deinamig sy’n ehangu’n gyflym yn y DU gan feddu ar gysylltiadau sy’n tyfu’n barhaus â sectorau peirianneg perfformiad uchel eraill megis modurol, amddiffyn, morol, ac awyrofod. Mae hyn yn agor cyfleoedd eithriadol i unigolion sy’n dymuno meithrin gyrfa ym maes peirianneg chwaraeon moduro a meysydd cysylltiedig.
Drwy gydol y cwrs, yn ogystal ag ennill sylfaen ddamcaniaethol gryf, byddwch hefyd yn cael budd o brofiad ymarferol gyda cyfarpar o’r radd flaenaf.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi’n adeiladu ar eich gwybodaeth ddamcaniaethol trwy weithgareddau ymarferol a fydd yn dwysáu eich egwyddorion peirianneg. Yn eich ail flwyddyn, byddwch chi’n cymryd rhan mewn prosiectau ymarferol, gan gynnwys cystadlu mewn rasys Greenpower ar draws y DU a chymryd rhan mewn digwyddiadau rasio ochr yn ochr ag aelodau staff. Mae’r profiadau hyn yn rhoi cyfle amhrisiadwy i chi ddefnyddio eich sgiliau mewn amgylcheddau chwaraeon moduro byd go iawn.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, cewch fynediad at ystod eang o lwybrau gyrfa. Gallwch barhau â’ch addysg drwy ein rhaglenni HNC a HND, dilyn addysg ar lefel y brifysgol, neu fynd i’r byd gwaith yn uniongyrchol trwy brentisiaethau neu gyflogaeth yn niwydiannau peirianneg chwaraeon moduro a pherianneg perfformiad uchel. Trwy’r cyfleoedd hyn a chefnogaeth canolfan ranbarthol arloesol sy’n ehangu, ni fu erioed adeg fwy cyffrous i ddechrau ar eich taith ym maes peirianneg chwaraeon moduro.
Ar y cwrs hwn, byddwch chi’n astudio:
Blwyddyn 1
· Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
· Cyfathrebu ar gyfer Technegwyr Peirianneg
· Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg
· Egwyddorion Mecanyddol Systemau Peirianneg
· Drafftio a Chymorth Cyfrifiadur mewn Peirianneg
· Egwyddorion, Gweithrediad, Gwasanaethu a Thrwsio Injan Cerbyd
· Diagnosio ac Atgyweirio Nam ar System Cerbyd
· Egwyddorion Trydanol ac Electronig ar gyfer Technoleg Cerbydau
· Gweithrediad Systemau Ffrâm Cerbydau
Blwyddyn 2
· Prosiect Peirianneg
· Mathemateg Peirianneg Bellach
· Systemau crogiant, Llywio a Brecio Cerbydau Ysgafn
· Cymwysiadau ar gyfer Gwyddor Gerbydau a Mathemateg
· Ffrwythiant a Gweithrediad Systemau Chwistrellu Petrol Cerbydau
· Egwyddorion Trydanol ac Electronig mewn Peirianneg
· Ymarferion Gweithdy Chwaraeon Moduro
· Paratoi ac Arolygu Cerbydau Chwaraeon Moduro
Er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol, cewch fynediad at weithdy o’r radd flaenaf a gallwch chi gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau chwaraeon moduro ar draws y DU. Hefyd, cewch gyfle i ategu cymwysterau ychwanegol ym meysydd Peirianneg Gyfansawdd, niwmateg a Chynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, gan ddefnyddio ein cyfleuster hyfforddiant sy’n arwain y sector.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae angen i chi feddu ar ddiddordeb brwd ym maes peirianneg a brwdfrydedd a chymhelliant i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a’ch sgiliau dadansoddi. Bydd ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol yn ogystal â dangos parch at bobl eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant. Mae meddu ar yr agwedd gywir a’r lefel gywir o frwdfrydedd gywir yn hanfodol i ddarpar gyflogwyr.
Disgwylir y byddwch chi’n parhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Hefyd, disgwylir i chi fynychu cynifer o ddigwyddiadau rasio â phosibl a rhwydweithio â chynifer o bobl â phosibl.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs, portffolio ac asesiad ymarferol. Ar gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:
· Tystysgrif Lefel 3 mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro)
· Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro)
· Bagloriaeth Cymru · Mathemateg a Saesneg (bydd gofyniad i chi fynychu dosbarthiadau os enilloch chi gradd sy’n is na gradd C yn y pynciau hyn ar gyfer eich arholiadau TGAU)
· Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth sy'n digwydd nesaf?
-
HNC mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch yng nghanolfan HiVE.
-
Cymhwyster ar lefel y brifysgol mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro neu bwnc arall sy’n gysylltiedig â pheirianneg
-
Prentisiaeth Uwch
- Cyflogaeth
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFBE0032AA
HiVE - Glyn Ebbwy
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr