UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol (Dylunio Metaverse) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn berffaith ichi os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio digidol creadigol yn arwain at gyflogaeth mewn llu o feysydd, gan gynnwys cyfryngau sain/gweledol/rhyngweithiol, cyhoeddusrwydd a marchnata, dylunio cynnyrch a rhith-wirionedd.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych eisiau datblygu eich sgiliau creadigol
...ydych yn mwynhau dylunio, gweithio gyda thechnoleg a datblygu syniadau ar gyfer cynnyrch
... ydych eisiau gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae hwn yn gwrs creadigol llawn amrywiaeth sy'n anelu at gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr ac artistiaid. Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau er mwyn datblygu eich sgiliau creadigol, fel dylunio a datblygu cysyniad, rhyngwyneb technoleg, modelu ac animeiddio 3D, dylunio tudalennau gwe/apiau/gemau, cynhyrchu fideo digidol a dylunio cynnyrch. Byddwch yn dod i ddeall pecynnau meddalwedd creadigol gan gynnwys Photoshop, 3D Studio Max a Dreamweaver, a phrofi llu o friffiau dylunio i feithrin eich sgiliau technegol. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys llu o sesiynau ymarferol wedi eu hanelu at gynhyrchu portffolio creadigol o ystod eang i helpu ichi symud ymlaen at brifysgol neu gyflogaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cael eich asesu ar eich gwaith cwrs, yn y pen draw yn cyrraedd Lefel 3 Technoleg a Chynhyrchu Cyfryngau Creadigol, yn ogystal â chymwysterau cynorthwyol priodol i ymestyn eich sgiliau; Gweithgareddau Sgiliau a Saesneg a Mathemateg.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
O ran cymwysterau, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/TGCh ac un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwchmewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Gan fod hwn yn gwrs creadigol, byddwch hefyd angen bod ag ymagwedd ben agored i feddwl am syniadau a datrysiadau i friffiau dylunio a bydd disgwyl ichi ymrwymo i bresenoldeb llawn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Wedi ichi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i astudio Gradd Sylfaen Menter Greadigol (Cyfathrebu Graffeg) gyda Coleg Gwent neu unrhyw gwrs lefel prifysgol arall. Fel arall, gallwch gael eich cyflogi yn y diwydiannau cyfryngau neu amlgyfrwng neu rôl berthnasol (er enghraifft, marchnata neu ddylunio) mewn sector arall.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyn ichi gael eich derbyn, bydd angen ichi ddod am gyfweliad i drafod eich sgiliau, amcanion ac unrhyw gynlluniau gyrfa pellach gydag aelod o dîm y cwrs er mwyn gweld ai hwn yw'r dewis iawn ar eich cyfer chi. Dewch ag unrhyw waith creadigol, dylunio neu dechnoleg rydych wedi eu gwneud gyda chi, fel llyfrau braslunio, lluniau, gwaith fideo, cerddoriaeth ac yn y blaen.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBE0017AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr