BTEC Diploma mewn Sgiliau Cyfryngau Creadigol Lefel 2
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-art-creative-media-lighting.jpg)
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol i gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd D neu uwch.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych am ddatblygu eich gwybodaeth a’ch profiad ym maes celf a dylunio, gan eich galluogi i ddatblygu eich gallu a’ch hyder cyn symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3.
Byddwch yn cael profiad o weithio gyda phatrymau arwyneb, cerameg, print a ffotograffiaeth, yn ogystal ag astudiaethau gweledol, tecstilau, ac astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rwyt ti’n greadigol
...Rwyt yn gobeithio parhau â dy astudiaethau ar ôl y cwrs hwn
... Rwyt ti eisiau gyrfa ym maes celf a dylunio
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn gwneud eich gwaith eich hun ac yn archwilio amrywiaeth o brosesau newydd, fel gweithio gyda phatrymau arwyneb, cerameg, printiau a ffotograffiaeth. Byddwch hefyd yn edrych ar astudiaethau gweledol, tecstilau, astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol. Bydd cyfleoedd i chi ymgolli mewn creu lluniau, creu marciau a dod o hyd i ffyrdd o gofnodi, deall a chyfleu’r byd o’ch cwmpas.
Mae datrys problemau drwy dasgau hwyliog, cymryd risgiau ac archwilio syniadau newydd yn allweddol i’r cwrs. Bydd prosiectau ysgogol a heriol yn eich herio i feddwl am sut a pham rydych chi’n gwneud gwaith celf. Bydd trafodaethau stiwdio a llyfrgell gyda'ch tiwtoriaid a'ch cymheiriaid yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill, a fydd
yn ei dro yn rhoi hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun. Byddwch yn cael digon o gefnogaeth i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymchwilio ac archwilio, a bydd hyn i gyd yn eich helpu i benderfynu lle rydych chi’n ffitio a beth allwch chi ei gynnig i’r byd fel artist, dylunydd neu wneuthurwr.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt y graddau angenrheidiol eto (Gradd C neu uwch) yn cael addysg a chymorth ychwanegol i astudio naill ai ar gyfer TGAU neu Sgiliau Swyddogaethol, yn dibynnu ar y graddau TGAU blaenorol.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau heriau sgiliau Agored mewn materion cymunedol, menter a materion cyfoes. Mae’r heriau’n canolbwyntio ar ddynwared senarios bywyd go iawn y mae artistiaid a phobl greadigol yn aml yn gweithio arnynt yn y diwydiant.
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs a bydd eich gwaith yn cael ei safoni’n allanol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 mewn Celf a Dylunio
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol i gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd D neu uwch.
Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i ystod o raddau ac amgylchiadau ar gyfer eich derbyn ar y cwrs hwn.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunan-gymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr Lefel 2 yn symud ymlaen i Ddiploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Ymarfer Cyfryngau Creadigol ac yn parhau â’u taith fel artistiaid a dylunwyr. Mae eraill sy'n teimlo nad ydynt eisiau dyfodol o fewn y diwydiannau creadigol yn teimlo'n ddigon hyderus i ddod o hyd i waith neu ymgymryd â rhaglen astudio amgen, gan wybod bod y sgiliau trosglwyddadwy y maent wedi'u hennill ar y cwrs wedi rhoi arfau iddynt roi cynnig ar lwybr newydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o’r cwrs hwn, bydd angen i chi dalu ffioedd stiwdio, prynu llyfrau braslunio, deunyddiau paentio a lluniadu. Efallai y bydd ffioedd teithiau ar gyfer ymweliadau ag orielau a digwyddiadau hefyd yn daladwy drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu ac mae’n bosibl y byddant yn newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFBD0064AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr