En

BTEC Diploma mewn Sgiliau Celf a Dylunio Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf, gradd D neu uwch.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os hoffech chi wella eich gywbodaeth a’ch profiad ym meysydd celf a dylunio, gan eich galluogi i ddatblygu eich gallu a magu eich hyder cyn symud ymlaen i’r cymhwyster Lefel 3.

Byddwch chi’n cael profiad o weithio gyda delwedd a marcio, ffasiwn, gwisgadwy a thecstiliau, 3D, gofod a chynnyrch, delwedd sy’n symud a lens a graffeg a chyfathrebu digidol, yn ogystal ag astudiaethau hanesyddol a chyd-destun.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi’n greadigol.
... Rydych chi’n dyheu am ddilyn cwrs astudiaethau pellach ar ôl y cwrs hwn.
... Rydych chi’n dymuno dilyn gyrfa ym meysydd celf a dylunio.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch chi’n gweithio ar eich plen eich hunan ac yn archwilio ystod o brosesau newydd, megis gweithio gyda phatrwm arwyneb, serameg, argraffedig a ffotograffiaeth. Byddwch chi hefyd yn ystyried astudiaethau gweledol, astudiaethau tecstiliau, astudiaethau hanesyddol ac astudiaethau cyd-destun. Bydd cyfleoedd i chi ymdrochi ym meysydd arlunio, gwneud marciau a dod o hyd i ffyrdd o gofnodi, deall a chyfleu’r byd o’ch amgylch chi.

Y pethau sy’n allweddol i’r cwrs hwn yw datrys problemau trwy dasgau hwyl, cymryd risgiau ac archwilio syniadau newydd. Bydd prosiectau sy’n ysgogi ac yn 

ymestyn yn eich herio chi i feddwl am sut a pham rydych chi’n creu gwaith celf. Bydd trafodaethau gyda’ch tiwtoriaid a’ch cymheiriaid yn y stiwdio a’r llyfrgell yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill a fydd, yn ei dro, yn rhoi hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun. Cewch ddigon o gymorth o ran dod o hyd i ffyrdd newydd o ymchwilio ac archwilio a bydd hyn oll yn eich helpu chi i benderfynu ar eich lle chi a’r hyn y gallwch chi ei chynnig i’r byd fel arlunydd, dylunydd neu wneuthurwr.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn meddu ar y graddau angenrheidiol (gradd C neu uwch) ar hyn o bryd yn derbyn addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai cymhwyster TGAU neu gymhwyster Sgiliau Gweithredol, yn amodol ar eich graddau TGAU blaenorol.

Hefyd, cewch gyfle i gwblhau heriau sgiliau Agored ym meysydd y gymuned, mentergarwch a materion cyfoes. Mae’r heriau yn canolbwyntio ar efelychu senarios bywyd go iawn y mae artistiaid a phobl greadigol yn gweithio arnynt yn aml yn y diwydiant.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs a chaiff eich gwaith ei gymedroli’n allanol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch chi’n ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Cymraeg neu Saesneg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf, gradd D neu uwch.

Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i ystod o raddau ac amgylchiadau i fyfyrwyr gael eu derbyn ar y cwrs hwn.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at bobl eraill, brwdfrydedd am y pwnc, hunan-gymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr Lefel 2 yn symud ymlaen i’r cwrs Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Celf ac Ymarfer Dylunio ac maent yn parhau ar eu taith fel arlunwyr a dylunwyr. Mae rhai eraill sy’n teimlo nad yw dyfodol yn y diwydiant creadigol yn addas iddynt yn teimlo’n ddigon hyderus i ennill cyflogaeth neu ddilyn rhaglen astudio amgen gan wybod bod y sgiliau trosglwyddadwy y maent wedi’u hennill ar y cwrs hwn wedi rhoi’r offer iddynt roi cynnig ar lwybr newydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o’r cwrs hwn, bydd angen i chi dalu am ffioedd stiwdio a phrynu llyfrau braslunio a deunyddiau peintio ac arlunio. Hefyd, efallai y bydd ffioedd ar gyfer gwibdeithiau i orielau celf a digwyddiadau yn daladwy drwy gydol y flwyddyn. Mae’r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallant newid

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Sgiliau Celf a Dylunio Lefel 2?

PFBD0063AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr