En

BTEC Diploma Cyntaf mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Yn gryno

Bydd gennych gyfle i ennill gwybodaeth eang, ynghyd â deall a datblygu sgiliau yn y sector technoleg gwybodaeth a rhai agweddau ar y sector diwydiannau creadigol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych eisiau dilyn gyrfa mewn TG

... ydych eisiau datblygu ystod o sgiliau a thechnegau, sgiliau personol a phriodoleddau a fydd yn hanfodol i lwyddiant yn eich bywyd gwaith

... oes gennych ddiddordeb ysol mewn cyfrifiadura a thechnoleg gwybodaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth o unedau, yn cynnwys:

  • Y byd ar-lein (arholiad)
  • Systemau technoleg (arholiad)
  • Portffolio digidol
  • Creu animeiddiad digidol
  • Creu graffeg ddigidol
  • Datblygu cronfa ddata
  • Rhwydweithiau cyfrifiadurol
  • Datblygu meddalwedd
  • Datblygu cynnyrch amlgyfrwng
  • Meddwl yn gyfrifiadol
  • Cyfrifiadura yn y gweithle

Asesir y cwrs hwn drwy arholiadau yn ogystal ag aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig. Ar y diwedd, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol, yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Swydd yn y sector TG neu astudiaeth bellach fel Diploma Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn TG.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gall costau ychwanegol gynnwys £25 ar gyfer Teithiau Addysgiadol a £10 ar gyfer ffeiliau/deunydd ysgrifennu/cof bach.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cyntaf mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol Lefel 2?

PFBD0067AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr