YMCA Tystysgrif mewn Cryfder a Chyflyru Lefel 2
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-sport-strength-conditioning.jpg)
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£140.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
07 Medi 2024
Dydd Mercher a Dydd Sadwrn
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
15:00
Hyd
14 wythnos
Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr er mwyn iddynt allu ymgysylltu, hwyluso, addysgu a chefnogi cleientiaid mewn amgylchedd cryfder a chyflyru.
Dyma'r cwrs i chi os...
rydych chi’n dymuno perfformio’n gymwys fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 2 naill ai mewn Clwb Chwaraeon neu amgylchedd Campfa.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr er mwyn iddynt allu ymgysylltu, hwyluso, addysgu a chefnogi cleientiaid mewn amgylchedd cryfder a chyflyru. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu chwilio am waith a pherfformio’n gymwys fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 2.
Trosolwg o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth
- Egwyddorion gweithio yn yr amgylchedd cryfder a chyflyru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid a sut i gynnal iechyd, diogelwch a lles.
- Sut i gynnal ymgynghoriadau a hyrwyddo manteision iechyd gweithgarwch corfforol a chryfder a chyflyru.
- Sut i gyfathrebu â chleientiaid yn effeithiol a chymell cleientiaid i lynu wrth raglen ymarfer cryfder a chyflyru.
- Y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a pharatoi rhaglen ymarfer corff sy’n seiliedig ar gryfder a chyflyru gydag oedolion sy’n ymddangos yn iach (unigolion a grwpiau). Gall hyn gynnwys oedolion hŷn (50 a hŷn) a phobl ifanc yn yr ystod oedran 11-18, ar yr amod eu bod yn rhan o grŵp oedolion mwy.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Yn ddelfrydol, dylai fod gennych rywfaint o brofiad o ymarferion cryfder a chyflyru o safbwynt chwaraeon penodol neu drwy ymarfer personol a dylech fod â rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gall y cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru mewn cyfleuster ffitrwydd/chwaraeon neu gyfleuster perthnasol arall.
Gall y cymhwyster hefyd arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefelau ac ar lefelau uwch, er enghraifft:
- Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Rhaglennu a Goruchwylio Ymarfer gyda Chleientiaid Anabl
- Diploma YMCA Lefel 3 mewn Cyfarwyddo Ffitrwydd Hyfforddiant Personol a Chylchedau
- Tystysgrif YMCA Lefel 4 mewn Cryfder a Chyflyru
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yn cael ei gynnal dros 14 wythnos gyda chymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Cynhelir gweithdai wyneb yn wyneb ar ddydd Sadwrn gyda dysgu o bell ar gael ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddangos tystiolaeth o waith yn eu hamgylchedd chwaraeon eu hunain i gefnogi cyflawni’r cymhwyster hwn.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPAW0637AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 07 Medi 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr