En

YMCA Tystysgrif mewn Cryfder a Chyflyru Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£140.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
07 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher a Dydd Sadwrn
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
15:00

Hyd

Hyd
14 wythnos

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr er mwyn iddynt allu ymgysylltu, hwyluso, addysgu a chefnogi cleientiaid mewn amgylchedd cryfder a chyflyru.

Dyma'r cwrs i chi os...

rydych chi’n dymuno perfformio’n gymwys fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 2 naill ai mewn Clwb Chwaraeon neu amgylchedd Campfa.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr er mwyn iddynt allu ymgysylltu, hwyluso, addysgu a chefnogi cleientiaid mewn amgylchedd cryfder a chyflyru. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu chwilio am waith a pherfformio’n gymwys fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 2.

Trosolwg o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth

  • Egwyddorion gweithio yn yr amgylchedd cryfder a chyflyru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid a sut i gynnal iechyd, diogelwch a lles.
  • Sut i gynnal ymgynghoriadau a hyrwyddo manteision iechyd gweithgarwch corfforol a chryfder a chyflyru.
  • Sut i gyfathrebu â chleientiaid yn effeithiol a chymell cleientiaid i lynu wrth raglen ymarfer cryfder a chyflyru.
  • Y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a pharatoi rhaglen ymarfer corff sy’n seiliedig ar gryfder a chyflyru gydag oedolion sy’n ymddangos yn iach (unigolion a grwpiau). Gall hyn gynnwys oedolion hŷn (50 a hŷn) a phobl ifanc yn yr ystod oedran 11-18, ar yr amod eu bod yn rhan o grŵp oedolion mwy.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Yn ddelfrydol, dylai fod gennych rywfaint o brofiad o ymarferion cryfder a chyflyru o safbwynt chwaraeon penodol neu drwy ymarfer personol a dylech fod â rhywfaint o ffitrwydd corfforol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall y cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru mewn cyfleuster ffitrwydd/chwaraeon neu gyfleuster perthnasol arall.

Gall y cymhwyster hefyd arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefelau ac ar lefelau uwch, er enghraifft:

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yn cael ei gynnal dros 14 wythnos gyda chymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Cynhelir gweithdai wyneb yn wyneb ar ddydd Sadwrn gyda dysgu o bell ar gael ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddangos tystiolaeth o waith yn eu hamgylchedd chwaraeon eu hunain i gefnogi cyflawni’r cymhwyster hwn.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio YMCA Tystysgrif mewn Cryfder a Chyflyru Lefel 2?

UPAW0637AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 07 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr