En

YMCA Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£65.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Mehefin 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
13:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:30

Hyd

Hyd
3 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn.

Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn.

 

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw cydnabod y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar unigolyn i roi cymorth cyntaf brys yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys gallu asesu, diagnosio a thrin pobl sydd wedi cael eu hanafu cyn i staff sydd wedi cael hyfforddiant meddygol gyrraedd.

Dyma'r cwrs i chi os...

Rydych chi eisiau bod yn Swyddog Cymorth Cyntaf cymwysedig yn y gweithle. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymorth cyntaf brys yn y gweithle ac Adnabod a rheoli salwch ac anafiadau yn y gweithle.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs yn cynnwys cymysgedd o daflenni gwaith a sgiliau ymarferol.

Dros 3 diwrnod, mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys:

  • Rolau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cymorth Cyntaf
  • Asesu digwyddiad
  • Adnabod arwyddion a symptomau anaf a salwch
  • Helpu claf sy’n dioddef o anaf a salwch difrifol
  • Adfywio oedolion - CPR a defnyddio AED diffibriliwr
  • Anafiadau i’r Asgwrn Cefn
  • Anafiadau / ymosodiadau cemegol
  • Adwaith alergaidd gan gynnwys anaffylacsis
  • Ysigiadau, straen a dadleoliadau
  • Asthma
  • Llosgiadau a sgaldiadau
  • Trawiad ar y galon ac angina
  • Anafiadau i’r pen
  • Mân waedu a gwaedu difrifol

Byddwch yn cael asesiad ymarferol o gymhwysedd, a bydd angen darparu ymatebion byr i gyfres ragnodedig o gwestiynau. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith. Bydd y cymhwyster yn ddilys am 3 blynedd.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae angen presenoldeb llawn am 3 diwrnod y cwrs.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae’r Tystysgrifau Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn ddilys am 3 blynedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn ar gael fel cymhwyster dydd ac fel cymhwyster gyda’r nos.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio YMCA Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3?

UCAW0617AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Mehefin 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr