En

City & Guilds / NPTC Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Gweithrediadau Cysylltiedig Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£360.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
28 Ebrill 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
2 ddiwrnod

Yn gryno

Mae gan lifiau cadwyn amrywiaeth o ddefnyddiau ond gallant achosi damweiniau difrifol heb hyfforddiant addas neu sgiliau gweithredu cyfoes. Bydd y cymhwyster hwn yn cwmpasu cynnal a chadw dyddiol a pharhaus y llif gadwyn, miniogi'r llif a thorri pren sydd eisoes wedi'i gwympo i lefel y ddaear. Mae traws-dorri yn cynnwys y broses o dynnu aelodau ac yna torri'r goeden yn adrannau y gellir eu rheoli.

Bydd y cwrs hwn yn dysgu ymarfer iechyd a diogelwch rhagorol ac yn dangos eich gallu i ddefnyddio llif gadwyn.

Y cymhwyster hwn yw eich 'porth' i gymwysterau llif gadwyn eraill a gymeradwyir gan y NPTC, gan gynnwys NPTC mewn Cwympo a Phrosesu Coed Bach.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

… gyrfa fel garddwr tirwedd, llawfeddyg coed, ceidwad coetir neu unrhyw nifer o swyddi awyr agored.

… adnewyddu eich sgiliau cynnal a chadw a defnyddio llif gadwyn.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cymhwyster hwn yn dangos eich bod wedi cael eich asesu’n annibynnol gan Gyngor y Prawf Medrusrwydd Cenedlaethol o ran deddfwriaeth gyfredol, hanfodion gweithredu llif gadwyn a defnyddio a chynnal llifiau cadwyn yn ddiogel.

Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i gymhwyster NPTC Cwympo a Phrosesu Coed Bach, a gynigir hefyd ar Gampws Brynbuga.

Gofynion Mynediad

Nid oes angen profiad, ond rhaid ichi fod yn 19 oed
neu'n hyn.

 

Mae'n rhaid i chi cwblhau'r cwrs hwn cyn cychwyn ar unrhyw gymhwyster llif gadwyn arall a gymeradwywyd gan NPTC.

Gwybodaeth Ychwanegol

Noder: Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn ar ddiwrnod ychwanegol, hysbysir y diwrnod hwn yn ystod yr hyfforddiant.

Anogir ymgeiswyr i gyflenwi eu dillad amddiffynnol a'u hesgidiau diogelwch eu hunain os ydynt ar gael ac yn cyrraedd y safon, fodd bynnag gall y coleg eu darparu os bydd angen ac os yw’r meintiau’n safonol.

Dylai ymgeiswyr ddod â phecyn bwyd gyda nhw gan y gallai rhywfaint o'r cwrs gymryd lle oddi ar y safle.

Mae'r holl gostau o dan adolygiad ac maent yn amodol ar newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds / NPTC Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Gweithrediadau Cysylltiedig Lefel 2?

UPAW0217AD
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 28 Ebrill 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr