CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol UG Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd
Yn gryno
Mae'r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Safon Uwch newydd yn cynnig profiad dysgu cyfannol, gyda'r cyfle i ddysgu am ddatblygiad a gofal unigolion trwy gydol eu hoes o genhedlu hyd at fod yn oedolion hyn.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych eisiau gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol
...ydych eisiau ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol
...hoffech ddilyn llwybrau Safon Uwch Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, y Gyfraith neu Ddyniaethau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Ar y cymhwyster poblogaidd hwn, byddwch yn astudio pedair uned ac yn cael eich asesu trwy waith cwrs ac arholiadau allanol.
Gallai’r unedau gynnwys:
- Hyrwyddo gofal a chyfathrebu o safon
- Hyrwyddo iechyd a lles da
- Cefnogi iechyd, lles a gwydnwch yng Nghymru
- Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
- Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad plant a phobl ifanc
- Cefnogi oedolion i gynnal eu hiechyd, eu lles a’u gwydnwch
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol UG/U Lefel 3 - manyleb newydd CBAC
Ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn unig y mae’r cwrs Safon Uwch hwn ar gael.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen addas ar gyfer cyflogaeth yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyd-destun mwy cyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol yn y brifysgol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFAS0200A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr