




Campws Peirianneg Gwerth Uchel Newydd
YN AGOR 2025
Dyfodol arloesedd a thechnoleg o’r radd flaenaf
Mae HiVE ar ddod – ein campws a adeiladwyd yn bwrpasol sy’n werth aml-filiynau o bunnoedd wedi’i ddylunio ar gyfer darpar beirianwyr. Cewch hyfforddiant ac addysg ymarferol ym meysydd roboteg, awyrofod, chwaraeon moduro, deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru a Chymoedd Technoleg, mae HiVE wrth galon Glyn Ebwy, yn agos i Barth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd y cyfleuster newydd yn rhoi’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau yn y dyfodol.
Datblygu sgiliau peirianneg
O roboteg a gweithgynhyrchu haen-ar-haen i seiberddiogelwch a realiti estynedig, bydd dysgwyr wrth galon technoleg o’r radd flaenaf.
Dyfodol peirianneg
Bydd y cyfleuster addysg carbon-niwtral sy’n hollol ddigidol yn cynnig cwricwlwm a arweinir gan arbenigwyr diwydiant gan gynnig cyrsiau newydd a chyrsiau presennol o lefel TGAU i lefel radd.
Cyfleoedd I gyflogwyr
Mae HiVE ar agor i gyflogwyr ddatblygu sgiliau STEM yn y gymuned gan sicrhau gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau i fodloni gofynion technoleg sy’n esblygu’n gyflym.
HiVE
Coleg Gwent
Heol Letchworth
Glynebwy
Blaenau Gwent
NP23 6FS
Ymhlith y cyfleusterau yn y Ganolfan HiVE NEWYDD mae:

Ganolfan Ragoriaeth Diwydiant 4.0

Labordai awtomatiaeth

Ystafelloedd realiti rhithwir a realiti estynedig

Cyfleusterau Gweithgynhyrchu Uwch

Gweithdai cerbydau awtonomaidd
